Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Ionawr 2021
Amser:
13. 30-
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11150
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Tim Smith, Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth John Davies, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru Glyn Roberts, Undeb Amaethwyr Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Ifan Lloyd, Cymdeithas Milfeddygol Prydain Grace O'Gorman, Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid Cyf |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS a Neil Hamilton AS.
2 Trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac Aelodau o’r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
3 Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Y Prif Swyddog Milfeddygol; Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid Cyf; a Changen Gymreig Cymdeithas Milfeddygon Prydain.
4 Papur(au) i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU
4.2 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â dyletswyddau trwydded pysgota rhwyd eog a brithyll mudol 2021-2023
4.3 Papur gan Y Cerddwyr mewn perthynas â gwaith craffu’r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
4.4 Gohebiaeth gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban at Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)
4.5 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru mewn perthynas â chylch gwaith bioamrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
4.6 Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1Derbyniwyd y cynnig.
6 Ystyried trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth o dan eitem 2
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2.
7 Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon: Trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3.
8 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.